Plas Maenan

Hanes

Adeiladwyd y Tŷ Edwardaidd cain hwn ar droad y ganrif oddeutu 300 troedfedd uwchben yr afon ar silff o graig, a adnabyddir fel Plas Tan’rallt neu Blas Maenan. Ym 1915 fe'i prynwyd gan y Gorfforaeth Alwminiwm ar ochr orllewinol y dyffryn ar gyfer Henry Joseph Jack, eu rheolwr Gyfarwyddwr, a newidiodd yr enw i Maenan Manor.

Cynigwyd y tŷ ar werth ym 1930 ond bu'n wag nes iddo ddod yn ysgol i blant faciwî yn ystod y rhyfel. Roedd llawer o’r plant yn hynod hapus mewn lle mor ddelfrydyddol ac mae o leiaf dri llyfr wedi eu hysgrifennu am eu hamser yn y Plas.

Mae Cyfadeilad o Dwneli o dan Blas Maenan, y credir ei fod yn Ganoloesol. Mae rhan adeiledig o'r cyfadeilad twneli yn ystafell gref i atal ffrwydriadau gyda drws sydd â'r dimensiynau y byddech chi'n disgwyl eu canfod mewn claddgell ble gallwch fyned trwy gerdded i mewn. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd yr ystafell hon i storio Trysorau Cenedlaethol o Amgueddfa Genedlaethol Prydain.

Daeth y tŷ yn westy yn y 1950au ac roedd yn fwyty poblogaidd ac yn lleoliad ar gyfer achlysuron a phriodasau. Fe ddaeth ac aeth perchnogion amrywiol hyd at 2005. Dyma pryd wnaeth James a Caroline Burt waith adfer sylweddol a datblygu'r eiddo fel lleoliad priodas blaenllaw yn Nyffryn Conwy.

Prynodd y mentrwr Jane Harris, sydd wedi ymddeol, Dŷ Gwledig Plas Maenan ym mis Rhagfyr 2018. Aeth ymlaen i adnewyddu’r eiddo a buddsoddi mewn gwelliannau i nodweddion presennol gan gynnwys to newydd sbon, rhodfa lechi Cymreig ac adfer y llawr â pharce pren derw.

Mae Plas Maenan bellach yn rhan o The Gilchrist Collection, cwmni sy’n arbenigo mewn priodasau ac sy'n gweithredu lleoliadau priodas ar draws y DU yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau.

Ydych chi am fod yn rhan o'n dyfodol? Dewch i gynnal eich priodas gyda ni!

cy
Scroll to Top